CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Pridd

Llŷr Titus

Pridd

Pris arferol £8.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Llŷr Titus

ISBN: 9781913996529
Dyddiad Cyhoeddi: 21 Ebrill 2022
Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn
Fformat: Clawr Meddal, 181x120 mm, 166 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel fer drawiadol sy'n bortread byw, ac effeithol o gynnil, o gymeriad unigryw ac o'r newid yng nghefn gwlad Llŷn. Campwaith.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw’r awdur Llŷr Titus. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, wobr Tir na Nog yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan gwmni’r Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp a bu’n un o olygyddion y cylchgrawn a rhai cyhoeddiadau. Mae newydd gwblhau ei ddoethuriaeth ym maes Astudiaethau Celtaidd. Yn ogystal â llenydda ac astudio bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr teledu. Pridd yw ei gyfrol ryddiaith gyntaf ar gyfer oedolion.