Y Lolfa
Rhyw Flodau Rhyfel
Awdur: Llŷr Gwyn Lewis
ISBN: 9781847718815
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Mehefin 2014
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 196x130 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg
Llyfr am hanes, rhyfel a theithio gan yr awdur, y bardd a'r darlithydd Llŷr Gwyn Lewis. Dyma blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen a'i chanolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni'n coffáu. Trwy bytiau cofiannol, ysgrifau taith, ffotograffau, dyddiaduron, cofnodion a llenyddiaeth cawn gydgerdded â'r awdur rhwng cwsg ac effro ar hyd llwybrau'r cof a'r dychymyg.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Llŷr Gwyn Lewis yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel teifi, ym Mhrifysgol Abertawe, a chwblhaodd ddoethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones ac W. B. Yeats yn 2014. Mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn dod o Gaernarfon. Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf o’i gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul gan Gyhoeddiadau Barddas.
Gwybodaeth Bellach:
Mae cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr Gwyn Lewis yn blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen a’i chanolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni’n coffáu. Trwy bytiau cofiannol, ysgrifau taith, ffotograffau, dyddiaduron, cofnodion a llenyddiaeth cawn gydgerdded â’r awdur rhwng cwsg ac effro ar hyd llwybrau’r cof a’r dychymyg.
Llinyn arian y gyfrol yw sylweddoliad yr awdur i frawd ei daid gael ei ladd yn Syria yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dilynwn ei deithiau yntau wrth iddo ddod i ddysgu rhagor am ei hen ewythr, a hynny yn erbyn cefndir y rhyfel cartref presennol yn Syria.