CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Safbwyntiau: Anymwybod Cymreig, Yr - Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

Gwasg Prifysgol Cymru

Safbwyntiau: Anymwybod Cymreig, Yr - Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

Pris arferol £16.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: L. Wigley
ISBN: 9781786834454
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Gorffennaf 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Caerdydd
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae'r llyfr hwn yn trafod hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd dylanwadol J. R. Jones ym 1970. Mae'n olrhain ac yn dadansoddi ymateb awduron a deallusion Cymraeg i syniadau newydd, megis seicdreiddiad a dirfodaeth, ym meysydd seicoleg ac athroniaeth.
Tabl Cynnwys:
Diolchiadau
Cyflwyniad
1. Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad a Seicotherapi yn y Gymraeg
2. Tywyll Heno? Ymatebion Llenorion Cymraeg I Seicdreiddiad
3. Argyfwng ac Ymrwymiad: Dirfodaeth Gymraeg
4. Cyfannu’r Rhwyg: Seicoleg yng Ngwaith J. R. Jones
Casgliad
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai
Bywgraffiad Awdur:
Mae Llion Wigley yn hanesydd sydd wedi cyhoeddi ysgrifau ac erthyglau yn Y Traethodydd, Cylchgrawn Hanes Cymru, Llafur, Ysgrifau Beirniadol ac O'r Pedwar Gwynt.
Gwybodaeth Bellach:
1. Y llyfr hwn fydd yr ymdriniaeth fanwl cyntaf o’r ymateb Cymraeg i syniadau Sigmund Freud a seicdreiddiad yn gyffredinol yn y cyfnod o hanner canrif rhwng 1920 a 1970 a hefyd yr ymdriniaeth gyntaf benodol o’r ymateb i ddirfodaeth yng Nghymru. Bydd yn codi cwr y llen i ddarllenwyr ar y cyfoeth o erthyglau, cyfrolau ac ysgrifau a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwn yn y Gymraeg sy’n delio gyda syniadau heriol, cyffrous rhyngwladol fel seicdreiddiad a dirfodaeth.
2. Mae’n gyfrol ryngddisgyblaethol sy’n cwmpasu hanes, seicoleg, llenyddiaeth ac athroniaeth.
3. Mae’r gyfrol yn rhoi sylw manwl i waith awduron pwysig Cymraeg o hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif yn arbennig sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanghofio yn gyffredinol, megis Elena Puw Morgan, Gwilym O. Roberts a Harri Williams.
4. Ceisir dangos perthnasedd a phwysigrwydd rhai o’r syniadau a drafodwyd yng ngweithiau’r awduron sydd dan sylw yn y gyfrol i ddadleuon cyfoes ynglŷn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth a hunaniaeth Gymreig.