CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Safbwyntiau: Creu Dinasyddiaeth i Gymru - Mewnfudo Rhyngwladol a'r Gymraeg

Gwennan Higham

Safbwyntiau: Creu Dinasyddiaeth i Gymru - Mewnfudo Rhyngwladol a'r Gymraeg

Pris arferol £16.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Gwennan Higham

ISBN: 9781786835369
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press, Aberystwyth
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r llyfr yn disgrifio sut y mae mewnfudwyr yn ymateb i ddysgu Cymraeg, a beth yw ymatebion y gymuned groeso yng Nghymru i fewnfudwyr yn dysgu Cymraeg; cymherir hyn gyda pholisïau Llywodraeth Prydain a rhai Llywodraeth Cymru.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:
Rhagair
1 ‘Bringing people together around British values and that kind of thing’: Dadlau’r tuhwnt i amlddiwylliannedd yng Nghymru
2 ‘Dinasyddiaeth Brydeinig – mae e’n clymu ni mewn’: Adeiladu seiliau dinasyddiaeth Gymreig
3 ‘Dinesydd fydda i – dw i eisiau dysgu Cymraeg’: Llunio darpariaeth Gymreig i fewn-fudwyr
Ôl-nodyn
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai
Bywgraffiad Awdur:
Mae Gwennan Higham yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mae’n ymchwilydd ym maes mewnfudwyr rhyngwladol yn dysgu Cymraeg, ac mae ei gwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i’r goblygiadau y gall hyn ei gael ar ddiffinio amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth Gymreig.
Gwybodaeth Bellach:
1) Ymdriniaeth gyntaf mewn llyfr sydd yn ystyried cyfraniad mewnfudwyr rhyngwladol i’r Gymraeg a sut mae hyn yn cyfrannu at ddinasyddiaeth genedlaethol Gymreig i Gymru’r dyfodol.
2) Mae’n datgelu nifer o safbwyntiau gan fewnfudwyr, tiwtoriaid a swyddogion llywodraethol sydd yn cadarnhau dylanwad y wladwriaeth Brydeinig ar ideolegau unigolion.
3) Mae’n herio rhagdybiaethau'r gymuned groeso am berthynas mewnfudwyr a’r Gymraeg a’r gallu i ddysgu’r iaith.