CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Stafell fy Haul

Manon Rhys

Stafell fy Haul

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Manon Rhys

ISBN: 9781911584131
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2018
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Darluniwyd gan Sion Tomos Owen
Fformat: Clawr Caled, 217x143 mm, 96 tudalen
Iaith: Cymraeg

Cyfrol amlgyfrwng, dynn, ag iddi sawl thema hunangofiannol megis teulu a bwlio, atgofion a phrofiadau plentyndod; mae'r awdur hefyd yn darlunio difaterwch a diymadferthedd pobl yn wyneb trychineb ac yn ymateb i rai materion gwleidyddol cyfoes.

Tabl Cynnwys:
Stafell fy Haul
Icky Byrd
Musée des Beaux Arts (cyfieithiad o waith W. H. Auden)
Landscape with the Fall of Icarus (cyfieithiad o waith William Carlos Williams)
Breuddwyd
Cwlwm bwlio
Heddwch, er cof am Gwenno
Dwy ffenest
Dianc i'r wlad
Karka dy ddiwedd

Bywgraffiad Awdur:
Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae Manon Rhys yn byw yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn ac yn awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, yn cynnwys y nofelau Rara Avis (Gomer, 2005) ac Ad Astra (Gomer, 2014). Bu’n olygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin ac yn sgriptio sawl cyfres deledu. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 gyda’r nofel Neb Ond Ni a hefyd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 am gasgliad o gerddi yn dwyn y teitl ‘Breuddwyd’ – sydd i’w gweld yn y gyfrol hon. Mae Stafell Fy Haul, fel Cornel Aur (Gomer 2009), yn cynnwys amrywiaeth o farddoniaeth a rhyddiaith.

Gwybodaeth Bellach:
Mae'r ffin rhwng rhyddiaith a barddoniaeth yn aml yn un amwys a thrwy gydol y gyfrol hon ceir pendilio bwriadol rhwng y ddwy ffurf gan awdur crefftus.
Cyfrol sydd ar restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2019!