CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed

Gwasg Carreg Gwalch

Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed

Pris arferol £4.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Caryl Parry Jones, Craig Russell

ISBN: 9781845277154 
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Hydref 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Darluniwyd gan Leri Tecwyn
Fformat: Clawr Meddal, 149x136 mm, 66 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r drydedd gyfrol yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr. Mae hi'n Nadolig yn y theatr, a phawb yn gadael am y gwyliau. Pawb, hynny yw, ond Noel y gofalwr. Mae Tomos yn poeni amdano ac yn cuddio ym mhoced ei siaced, ond pwy yw'r ffrind cyfarwydd mewn côt goch mae Noel yn cyfarfod ag ef ar y to?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Fel yn y ddwy gyfrol gyntaf am Tomos, mae’r gyfrol yn cynnwys gwaith celf trawiadol a lliwgar Leri Tecwyn wrth i’r awduron gyflwyno mwy o gymeriadau’r theatr a dilyn hynt a helyntion Tomos a’i griw. Bydd y stori’n apelio at blant hyd at saith oed, ac yn berffaith ar gyfer amser stori gyda mam a dad neu fel llyfr darllen unigol i ddarllenwyr mwy hyderus.