Martin Davis
Tonnau Tryweryn
Pris arferol
Pris gostyngol
£8.95
Pris Uned
/ per
Treth yn gynwysedig.
Cyfrif cludiant yn y man talu.
Awdur: Martin Davis
ISBN: 9781847710765
Dyddiad Cyhoeddi: 16 Hydref 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 272 tudalen
Iaith: Cymraeg
♥ Llyfr y Mis: Tachwedd 2008
Boddi Cwm Tryweryn yw cefndir y nofel gyffrous hon. Cawn hanes cyfnod y 1950au hyd at 2007 trwy lygaid Mefina, Emlyn, a Des O'Farrell y Gwyddel, a'r modd y mae eu bywydau'n cydblethu. Mae eu helyntion personol a'r cefndir ffeithiol yn arwain at uchafbwynt adeg boddi Tryweryn a sut y mae hynny'n effeithio ar eu bywydau.
Gwybodaeth Bellach:
Tryweryn yn Tanio Dychymyg Awdur
Ar nos Wener 31 Hydref, cynhaliwyd lansiad nofel hanesyddol newydd Martin Davis, Tonnau Tryweryn (Y Lolfa, £8.95) yn y Llew Du yn Nhalybont, Aberystwyth yng nghwmni Brigyn.
Yn ôl y wasg, nofel yw hi sy’n dilyn hynt a helynt tri chymeriad tra gwahanol i’w gilydd, dros gyfnod o hanner canrif, wrth i’w gwleidyddiaeth a digwyddiadau’u cyfnod newid cwrs eu bywydau fesul un, a dyfroedd Tryweryn yn gefnlen cyson i’r cwbwl.
Cawn hanes Mefina, merch ifanc a’i blys ar fod yn nyrs, ei chenedlaetholwr o gariad, Emlyn, a’r straen a roddir ar eu perthynas wrth i Mefina ddewis mynd i astudio i Lerpwl. Wrth i’r misoedd droi’n flynyddoedd, a Mefina wedi dod o hyd i gariad newydd, mae Emlyn yn chwerwi fwyfwy tuag at Lerpwl, a phopeth y mae’r ddinas honno yn ei gynrychioli. Ymuna â’r ymgyrchoedd yn erbyn boddi Capel Celyn, a chanfod ei hun ymhlith y rhai sydd yn barod i weithredu... ond mae cynlluniau Lerpwl yn tynnu trasiedi sydyn i’w fywyd mewn modd na ddychmygodd byth. Pan ddychwela Mefina i’r ardal rhai blynyddoedd yn ddiweddarach gyda’i gŵr, y Gwyddel Gweriniaethol Des O’Farell, sy’n derbyn swydd fel warden yng ngwaith Tryweryn, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth. Ac wrth i ddaliadau gwleidyddol y cymeriadau gryfhau, felly hefyd y mae’r dynfa tuag at weithredu, a thrais.
 chymeriadau mor fyw â’r rhain, wedi eu selio mewn hanes cymharol ddiweddar, rhaid gofyn y cwestiwn a ydyn nhw’n deillio o bobol o gig a gwaed. Ond yn ôl yr awdur Martin Davis, “Dychymyg pur ydyn nhw, pob un”. Er hynny, mae’n cyfaddef iddo wneud gwaith ymchwil trwyadl wrth baratoi, ac ymgolli yn yr hanes: "Dwi wedi astudio Hanes Cymru, dyna oedd fy ngradd a ’ngradd bellach, felly mae gen i ddiddordeb byw yn y peth. Yn achos Tonnau Tryweryn, cael fy mherswadio i’w sgwennu y gwnes i, ac roedd hynny’n ychydig o her. Weithia’, os ydi rhywun hefo gormod o ddiddordeb yn y testun, mae o’n gallu llesteirio rhywun... er, erbyn y diwadd o’n i wedi ymgolli’n llwyr!"
Yn fuan yn ei waith ymchwil daeth i sylweddoli bod ardal Cwm Tryweryn wedi chwarae rhan mewn sawl ymgyrch wleidyddol, ac nid dim ond yr amlwg: "’Nath o ’nharo i bod ’na dri pheth â rhyw fath o gysylltiad rhyngddyn nhw ag ardal Tryweryn – sef ymgyrchoedd Tryweryn ei hun, hanes Frongoch, lle ganed yr IRA i bob pwrpas, a’r ffaith bod hunanfomwyr Llundain wedi dewis canolfan ganŵio ger yr Afon Tryweryn i gael rhyw fath o gyfarfod bondio cyn cyflawni’u hymosodiad nhw. O weld y tri pheth yna, o’n i’n meddwl, wel, ma’ ’na stori yn rwla," eglura.
Teimlodd nad oedd modd creu cysylltiad uniongyrchol, ond roedd rhywbeth yn hynny wedi cydio: "O’n i ddim isio sgwennu nofel ddogfennol hanesyddol, fel y cyfryw”, meddai. Felly penderfynodd wyro oddi wrth y digwyddiadau’r ydym ni’n gyfarwydd â nhw, gan adael y rheiny’n ddim ond cefndir i’r nofel: "Pan fydda’ i’n sgwennu, dwi’n licio meddwl am y petha lleia’ tebygol, yn hytrach na dilyn rhyw drywydd amlwg," esbonia.
Gadawodd felly i’r cymeriadau arwain, a’u stori nhw sydd yn y nofel, ac nid ffeithiau moel: "Mewn gwirionedd, mae hi’n nofel am y ffordd y gwnaeth y digwyddiadau yma effeithio ar bobol a’u perthynas hefo’i gilydd. Yn aml, mae’r sgil effeithia’ yn gallu gneud llanast o fywyda’ pobol."
Mae’r bobol, neu’r cymeriadau, yma yn ein tywys drwy flynyddoedd cythryblus yn ein hanes, wrth i’w bywydau gael eu dryllio gan orthrymau y tu hwnt i’w rheolaeth, a thynnu’r darllennydd i’w byd nhw. Cawn gipolwg ar fywyd pob dydd trigolion ardal Tryweryn yn ystod cyfnod du iawn yn eu hanes, a hwnnw’n ddarlun mor fyw y mae’n peri i ni fynd o dan groen eu hofnau, eu dicter, a’u cymhellion.
Er mai yn Lloegr y cafodd Martin Davis ei fagu, cafodd ei eni yn Llanrwst, y mae wedi byw yng Nghymru er pan yn ddeunaw oed, ac mae’n ystyried ei hun yn Gymro pybyr. Mae ganddo gof plentyn o basio Capel Celyn yn ystod y 60au cynnar, ar y ffordd i aros yn eu carafán ym Mhorthmadog, a gweld y gwaith yn mynd rhagddo.
"Mae’n rhaid mai rhyw naw oed o’n i,” meddai’r awdur wrth adrodd yr hanes. “Daeth dau weithiwr ata’ i a thynnu ’nghoes i, ma’n rhaid ’mod i wedi gwisgo fatha soldiwr. ‘Whose army are you in?’, medden nhw, ‘The Free Wales Army’, medde fi’n syth! D’wn i ddim lle o’n i ’di clywed yr enw, ond mae’n rhaid ’i fod o wedi treiddio rywsut neu’i gilydd!"
Mae Tonnau Tryweryn ar gael o’ch siop lyfrau leol neu gwales.com. Tonnau Tryweryn oedd Nofel y Mis Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer mis Tachwedd 2008.

Gwobrau:
Dewiswyd gan Gyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer ei Silff Lyfrau 2008-09.
Chosen by Wales Literature Exchange for its 2008-09 Bookcase.