Awdur: Luned Aaron
ISBN: 9781845277062
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Ebrill 2019
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Caled, 210x210 mm, 44 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae byd natur yn newid wrth i wanwyn droi'n haf, ac wrth i haf droi'n hydref. Pa greaduriaid a phlanhigion sydd i'w gweld ar adegau gwahanol o'r flwyddyn? Tro'r tudalennau i ddarganfod, cyn mentro allan am dro i weld mwy!
Bywgraffiad Awdur:
Daw Luned Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dwy ferch fach. Mae’n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y gogledd.
Gwybodaeth Bellach:
Llyfr lluniau hardd arall yn y gyfres boblogaidd gan yr artist Luned Aaron, yn dilyn llwyddiant ABC Byd Natur, Lliwiau Byd Natur ac 123 Byd Natur. Bydd amrywiaeth o ddelweddau collage hardd i ddysgu plant bach am eirfa'r pedwar tymor.