CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Pla

Wiliam Owen Roberts

Y Pla

Pris arferol £9.95
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Wiliam Owen Roberts

ISBN: 9781906396596
Dyddiad Cyhoeddi: 09 Tachwedd 2012
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Fformat: Clawr Meddal, 210x145 mm, 364 tudalen
Iaith: Cymraeg

A hithau'n 25 mlynedd ers i'r Pla gael ei gyhoeddi gyntaf, dyma argraffiad newydd o nofel flaengar Wiliam Owen Roberts. Ffantasi hanesyddol wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos ac Ewrop y 14G yw'r Pla, ond y mae ei hergyd yn gyfoes. Dyma gyfle o'r newydd i ystyried y nofel bwysig hon yng ngoleuni realiti yr heriau sy'n cyflwyno eu hunain i gymdeithas heddiw.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Wiliam Owen Roberts yn awdur amser llawn sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu yn ogystal â’r theatr. Ef hefyd yw un o’n prif nofelwyr: enillodd Petrograd gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2009.

Gwybodaeth Bellach:
Dyma argraffiad newydd o’r nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1987 gan Annwn (cyhoeddwyd ailargraffiad yn 1992 yn ogystal). A hithau’n 25 mlynedd ers i’r nofel ei chyhoeddi gyntaf mae’n briodol iawn bod y nofel flaengar hon ar gael unwaith eto.

Nofel hanesyddol yw hi, wedi ei lleoli yn Ewrop y 14G. Mae’n symud rhwng Cymru, y Dwyrain Agos a lleoliadau eraill yn Ewrop ac yn adlewyrchu hoffter yr awdur o ysgrifennu ar gynfas eang. Er bod cefndir canoloesol i’r gyfrol, eto mae’n nofel gyfoes ac yn un sy’n cwestiynu gwerthoedd a strwythur y gymdeithas fodern. Rhoddir llais i’r taeogion sy’n llafurio yn eu cwmwd Cymreig - lleisiau anghofedig llyfrau hanes mewn gwirionedd – a chawn ddilyn, yr un pryd daith Ibn al; Khatib i ddial ar frenin Ffrainc. Ond mae yna gysgod du iawn yn ar y cyfan oll... ac mae’r Pla yn lledu.


Mae’n 25 mlynedd ers cyhoeddi’r nofel hon gyntaf, ond y mae ei hergyd yr un mor berthnasol heddiw. Bydd argraffiad newydd yn symbylu trafodaeth ac yn ein cymell i edrych ar y gwaith hwn mewn cyd-destun cyfoes.

Mae’r rhagarweiniad yn cynnig cyflwyniad pwysig i’r nofel hon i gynulleidfa newydd (mae’n parhau i gael ei hastudio yn ein prifysgolion a’n colegau).