CLUDIANT AM DDIM DROS £45 | 01239 621370

Y Tywysog Bach / The Little Prince

Rily

Y Tywysog Bach / The Little Prince

Pris arferol £6.99
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Antoine De Saint-Exupéry, Louise Greig

ISBN: 9781849676007
Dyddiad Cyhoeddi: 04 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Rily
Darluniwyd gan Sarah Massini
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Caled, 282x252 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Mae'r sêr yn cuddio tywysog bach llon. Mae beth sy'n gudd yn hardd. Nawr, rwy'n teimlo fel petai'r sêr i gyd yn chwerthin er fy mwyn i. Addasiad Cymraeg gan Anwen Pierce o The Little Prince gan Louise Greig, a seiliwyd ar Le Petit Prince gan Antoine De Saint-Exupéry.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Wedi i’w awyren blymio i ganol yr anialwch gwag, mae’r peilot yn cael ei ddeffro un bore gan lais bachgen bach go arbennig. ‘Os gwelwch yn dda, ga i lun dafad?’ gofynna.
Mae’r peilot yn tynnu braslun ar bapur, a dyna ddechrau stori hudolus sy’n crynhoi pob dim sy’n bwysig a gwerthfawr ym mywydau pawb. Mae cenedlaethau o ddarllenwyr ledled y byd wedi trysori’r llyfr Le Petit Prince, a newidiodd y nofel wreiddiol fywydau ei darllenwyr. Bydd yr addasiad hyfryd hwn, yn seiliedig ar The Little Prince gan Louise Greig a Sarah Massini, yn sicr o swyno cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifanc.