CLUDIANT AM DDIM DROS £40 | 01239 621370

Y Wraig ar Lan yr Afon

Gwasg Carreg Gwalch

Y Wraig ar Lan yr Afon

Pris arferol £8.50
Pris Uned  per 
Treth yn gynwysedig. Cyfrif cludiant yn y man talu.

Awdur: Aled Jones Williams

ISBN: 9781845277864 
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Medi 2020
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 160 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma sut mae'r awdur yn cyflwyno'i nofel ddiweddaraf: 'Rhyw lun ar thrulyr. Neu o leiaf yn defnyddio ambell gonfensiwn thrulyrs. Yn symlach fyth, gwraig yn symud i fyw o fama i nunlla ac oblygiadau hynny.'

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae Aled Jones Williams yn lenor eithriadol o bwysig ym mywyd creadigol y Gymraeg, wastad yn gwthio'r ffiniau gyda'i ddychymyg delweddol cyffrous ac yn procio'r meddwl. Mae'r galw am ei waith felly ar lefel wahanol i werthiant yn unig. Mae'n ysgogi ac ysbrydoli eraill o'i gwmpas, yn torri tir newydd a bydd eraill yn cael budd o'i waith arloesol.
Mae'n nofel ddarllenadwy ac mae'n deffro'r dychymyg, gyda'i ddeialog yn gryno a gogleisiol fel arfer a'r cymeriadau yn llond eu crwyn. Mae ambell olygfa eiconig yma ac mae'r stori wedi ei fframio gyda dau ymweliad gyda'r diwedd.
Am be mae hi? Dyma gyflwyniad yr awdur eto: 'Stori am dair. Y Tair/Tri Celtaidd – 'chwedl' yn hytrach na 'nofel', felly. Y dair: Rachel, Egwyl, Myrr Alaw – Y Dinistrydd? Y Cymodydd? Y Diniwed? Neu – Mam? Merch? Y Dychymyg? Ond efallai fel ym mhob tair/tri mai un sydd yna mewn gwirionedd.