Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

William Morgan, Tŷ Mawr a Wybrnant

Awen Teifi

William Morgan, Tŷ Mawr a Wybrnant

Regular price £10.00
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

ISBN: 9781845278007
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Ebrill 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Golygwyd gan Eryl Owain
Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 90 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yn 2020, caewyd drysau Tŷ Mawr Wybrnant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd â chyfrifoldeb dros yr adeilad. Cafwyd gwared â swydd warden cartrefi un o'r bobl mwyaf creiddiol yn hanes yr iaith Gymraeg, sef yr Esgob William Morgan. Dyma gipolwg ar fywyd yr Esgob, ei gartref a adferwyd i'w gyflwr gwreiddiol yn y 1980au ac ar gwm Wybrnant ei hun.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Roedd y gamp a gyflawnodd wrth drosi'r Beibl i'r Gymraeg yn allweddol yn y cyd-destun Cymreig, ond yr oedd hefyd - fel y dangoswyd gan fwy nag un ysgolhaig - yn gamp o bwys Ewropeaidd. Rhoddwyd seiliau rhyddiaith fodern i'r Gymraeg a gwelodd y canrifoedd dilynol ffrwd o gyhoeddiadau yn y Gymraeg ar rychwant eang o destunau. Cafodd yr iaith statws gyhoeddus yn yr eglwys mewn cyfnod pan oedd hynny yn allweddol bwysig.
Wrth gau'r drysau, daeth degawdau, os nad canrifoedd, o bererindota i Dŷ Mawr Wybrnant i ben. Mae'r gyfrol hon yn ailgyhoeddi hanes ymweliadau yn y gorffennol gan ailorseddu arwyddocâd y cartref a'r cwm ym meddyliau'r darllenwyr. Bydd yn cynnwys profiadau ymwelwyr o wledydd tramor yn ogystal ag atgofion rhai o'r wardeiniaid diweddar; cawn hanes adfer yr adeiladau a chip ar y casgliad eang o Feiblau a esgorodd yn dilyn ymweliadau. Cynhwysir cerddi a hanesion a lluniau rhai pererindodau cymdeithasol â'r safle.
Bydd hyn i gyd yn creu cyfrol sy'n tanlinellu unwaith eto pam fod y cartref a'r hanes yn drysor cenedlaethol. Bydd, gobeithio, yn codi proffeil y lle unwaith eto ac yn arwain at ailystyried y penderfyniad i beidio å chael warden parhaol ac oriau agor sefydlog i'r adeilad.
Cynhelir lansiad y gyfrol ddydd Sul, Mai 8fed yn Nhŷ Mawr Wybrnant am 12 o'r gloch.
Yn gynharach yn y bore gellir cerdded o Benmachno (cyfarfod ger yr Hen Ysgol am 9.30) neu gyfarfod ym maes parcio Tŷ Mawr (11 ymlaen) a chael cyfle i gerdded yn hamddenol o amgylch y cartref a'r cwm.
Darperir paned a bara brith a bydd stondin lyfrau gan Bys a Bawd.
Croeso i bawb.