Shipping policy
Gwelir yr amryw o ffyrdd y gallwch dderbyn eich archeb isod.
Ceisiwn gwblhau ac anfon eich archeb o fewn 2 - 4 diwrnod gwaith, yn ddibynnol ar argaeledd yr eitemau. Er hyn, ceisiwn ddosbarthu eich archeb mor gyflym â phosib ym mhob achos. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod yma o newid mawr, ac efallai bydd ychydig o oedi sydd tu hwnt i'n gallu.
Os oes unrhyw anhawster gyda'ch archeb, byddwn mewn cysylltiad ar unwaith er mwyn ei ddatrys.
Cludiant
Gwasanaeth y Post Brenhinol yw modd arferol ein cludiant, a cheisiwn i'ch archeb eich cyrraedd mor gyflym â phosib. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw oedi a brofir o'r pwynt y byddwn yn postio eich archeb.
Ar gyfer archebion mawr, byddwn yn defnyddio gwasanaeth Parcelforce Worldwide.
Cludiant arferol : £3.50
Cludiant ar gyfer Tocynnau Anrheg : £1.00
Casglu o'r siop
Mae modd i chi Clicio a Chasglu fel petai, o'r siop. Gofynnwn yn garedig i chi aros ychydig o ddyddiau cyn ei gasglu er mwyn inni sicrhau bod eich archeb yn gyflawn.
Rhown wybod i chi pan fydd eich archeb yn barod i'w gasglu, felly sicrhewch eich bod yn ychwanegu rhif ffôn yn y man talu, er mwyn eich cysylltu!
Fan Ddosbarthu Awen Teifi
Mewn rhai achosion, bydd eich archeb yn cyrraedd yn fan newydd Awen Teifi ac nid y fan bost! Bydd hyn yn ddibynnol ar leoliad ac amser.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn yn ymwneud â chludiant, ebostiwch archeb@awenteifi.com a cheisiwn datrys eich ymholiad.
***
Please see below various methods of shipping and delivery.
Shipping
Collecting from the shop
Awen Teifi’s delivery van
If you have any questions regarding our shipping policy, please email archeb@awenteifi.com or phone 01239 621370.