Gwasg Carreg Gwalch
Cymru ar Stampiau'r Byd
Awdur: Twm Elias, Dafydd Guto
ISBN: 9781845276720
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Chwefror 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 122 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae’r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd i’r patrwm gwleidyddol drwy’r byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Gall casgliad da o stampiau fod yn llyfr hanes a daearyddiaeth penigamp.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Cyhoeddwyd stampiau gan rai cannoedd o wledydd mawr a bach ymhob cwr o'r ddaear erbyn hyn – rai ohonynt yn ddim mwy nag ynysoedd bychain llai o faint nag Ynys Môn. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhestrau o wledydd oedd yn cyhoeddi stampiau, dyweder yn 1880, 1910, y 1930au, y 1970au a heddiw yn dweud llawer wrthym am y newidiadau ddigwyddodd i'r patrwm gwleidyddol drwy'r byd dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Ond beth am GYMRU? Wrth ddarllen y gyfrol hon mae’n bosib y byddwch yn rhyw feddwl pam nad oes gennym ni stampiau post ein hunain? Yr unig beth sydd gennym yw stampiau rhanbarthol digon di-nod ac ambell stamp coffa mewn cyfresi Prydeinig. Er mor amharod fu'r sefydliad Prydeinig i gynnwys elfennau Cymreig ar eu stampiau – e.e. Cofio Hedd Wyn 2017 – mae ambell stamp (mewn sawl gwlad) yn adrodd stori neu'n cyflwyno cysylltiad Cymreig. Mae’n debyg mai un o'r stampiau prinaf a drutaf sydd â chysylltiad Cymreig iddo yw stamp 15c, Abraham Lincoln, 1867 o’r Unol Daleithiau, sydd yn werth rhyw £200,000.
Mae mwy i'ch synnu a’ch difyrru yn y casgliad hwn. Casgliad, gobeithio, a welwn yn tyfu'n eithriadol pan fydd gan Gymru'r hawl i gyhoeddi ei stampiau annibynnol ei hun. Wedi'r cyfan os gall ynysoedd megis Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw gyhoeddi stampiau deniadol, a gwneud elw sylweddol ohonynt, pam na all Cymru? Bu'r stampiau o fudd mawr iddynt i hyrwyddo’r economi a thwristiaeth ac yn gyfrwng addysgiadol pwysig i gynyddu ymwybyddiaeth yr ynyswyr hen ac ifanc o'u treftadaeth gyfoethog.