Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Gwella Fesul Tamaid

Graffeg

Gwella Fesul Tamaid

Regular price £18.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Ulrike Schmidt, Janet Treasure, June Alexander

ISBN: 9781913134990 
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Graffeg
Fformat: Clawr Meddal, 234x156 mm, 237 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i'w drin.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Ulrike Schmidt yn athro anhwylderau bwyta yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn seiciatrydd ymgynghorol ar anhwylderau bwyta yn yr Uned Anhwylderau Bwyta yn Ysbyty Maudsley, Llundain. Mae ei hymchwil yn trafod pob agwedd ar anhwylderau bwyta, o achosion i driniaethau. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn datblygu triniaethau newydd, yn enwedig ymyriadau byr sy’n gallu cael eu rhannu yn eang. Mae hi’n awdur nifer o lyfrau hunangymorth poblogaidd a rhaglenni therapi ar-lein arobryn.

Mae Janet Treasure, OBE, PhD, FRCP, FRCPsych, yn athro a seiciatrydd sy’n gweithio ym meysydd ymchwil ac addysgu yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn glinigwr yn Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley (www.thenewmaudsleyapproach.co.uk). Mae diddordebau ymchwil yr Athro Treasure yn cynnwys gweithio ar y cyd â chleifion a gofalwyr gan ddefnyddio ymchwil drawsfudol i ddatblygu mathau newydd o driniaeth.

Datblygodd June Alexander anorecsia nerfosa pan oedd hi’n 11 oed, salwch a heriodd ei bywyd a’i ffurfio. Daeth cariad tuag at eiriau yn fodd iddi oroesi. Fe gadwodd ddyddiadur a datblygodd yrfa mewn newyddiaduraeth. Ers 2006 mae June wedi defnyddio profiadau bywyd a sgiliau llenyddol i ysgrifennu am anhwylderau bwyta. Mae hi’n ymgeisydd PhD ac yn aelod o sefydliadau yn Awstralia a sefydliadau rhyngwladol, yn cynnwys AED, F.E.A.S.T. ac NEDC. Ei gwefan: www.thediaryhealer.com.

Gwybodaeth Bellach:
Mae’r llyfr yn darparu arweiniad cam wrth gam ar gyfer newid sy’n seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae’r iaith bob dydd, yr astudiaethau achos cyfoes ysgogol a’r storïau a’r darluniau deniadol yn Gwella Fesul Tamaid yn cynnig anogaeth, gobaith a safbwyntiau newydd i bob darllenydd.

Mae’r llyfr bach yma’n llenwi bwlch yn yr angen am wybodaeth hawdd ei deall am fwlimia nerfosa, anhwylder bwyta difrifol a chyffredin. Mae Ulrike Schmidt a Janet Treasure yn ymchwilwyr ac arbenigwyr byd-enwog ar anhwylderau bwyta ac mae June Alexander, a fu’n dioddef o anorecsia a bwlimia ei hun, yn awdur uchel ei pharch ac yn eiriolwr sy’n adnabyddus ledled y byd dros ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Mae Gwella Fesul Tamaid yn adnodd gwerthfawr – i ddioddefwyr, i’w teuluoedd ac i’r gweithwyr iechyd proffesiynol a’r gofalwyr sy’n eu trin.