Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370
Awdur: Ioan Roberts
ISBN: 9781800991101
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Golygwyd gan Llew Goodstadt, Sue Roberts
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 260 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol sy'n cloriannu hanes bregus ac arwrol cymdeithas Y Cylch Catholig o'i dechreuad hyd heddiw. Adroddir hanesion difyr am y Cylch a cheir penodau unigol yn trafod digwyddiadau a chyfraniadau gan aelodau presennol.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Ganwyd Ioan Roberts yn Rhoshirwaun, Llŷn ac ar ôl cyfnodau yn Sir Drefaldwyn, Wrecsam a Phontypridd ymgartrefodd ym Mhwllheli. Bu’n gweithio fel newyddiadurwr ar Y Cymro. Bu’n olygydd rhaglen Y Dydd ar gyfer HTV; yn ohebydd newyddion i Radio Cymru ac yn cynhyrchu Hel Straeon a rhaglenni eraill i S4C. Bu’n olygydd ac awdur ar nifer fawr o gyfrolau gwahanol.
Gwybodaeth Bellach:
Ceir hanesion am ymwneud unigolyn blaenllaw a disglair gyda’r Cylch fel R. O. F. Wynne, John Daniel ac wrth gwrs, Saunders Lewis. Roedd Saunders yno o’r dechrau’n deg, a gwelir nad yw ei gysgod wedi diflannu’n llwyr oddi ar hynny. Amlygir fod ymwneud Saunders â’r Cylch, fel ei ymwneud â nifer o gyrff eraill, yn ysbrydoliaeth i lawer ond yn destun ychydig o anesmwythyd i eraill.
Amlygir agweddau eraill tuag at Y Cylch - yn gefnogaeth ac yn wrthwynebiad a hynny o’r cyhoedd, i esgobion, i’r gymuned Gatholig Wyddelig. Olrheinir rhai o’r lleoliadau gwahanol sydd wedi chwarae rhan amlwg yn hanes y Cylch a’r bywyd Catholig Cymraeg.