Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Siôn Aled, Iwan Bala
ISBN: 9781845278113
Dyddiad Cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 102 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyddiadur, mewn celf a cherddi Cymraeg a Saesneg, o'r cyfnod diweddar yn ein hanes. Dyma gipolwg Siôn Aled ac Iwan Bala ar gwrs eu byd yng nghysgod dau bla: COVID-19 a Brexit.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Wrth i’r byd barhau i ymgodymu â galanas COVID-19, a chydag adladd distrywiol Brexit ond megis dechrau amlygu ei hun i’r rhan fwyaf o drigolion yr ynysoedd hyn, dyma gipolwg drwy lygaid bardd ac arlunydd ar gwrs eu byd yng nghysgod y ddau bla hynny. Gwelir eu hymateb mewn llên a llun i greulondeb, gwallgofrwydd, gwrthryfel a gobaith y cyfnod, a hynny gyda gwg – ac ambell wên yng nghanol y strach. Ceir cofnod yma hefyd o’r modd y bu i lif arferol bywyd barhau drwy’r cyfan, fel mae’n gorfod gwneud. Dyma ddyddiadur, mewn celf a cherdd, o gyfnod yn ein hanes y gallwn ond hyderu y bydd yn llawn haeddu ei alw’n unigryw.