Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370
Awdur: Máire Zepf
ISBN: 9781802580433
Dyddiad Cyhoeddi: 28 Ionawr 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Mr Ando
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x252 mm, 44 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dyma Rita. Mae Rita'n ferch fach â syniadau mawr. Mae Rita'n hoffi chwarae cuddio. Byddai'n hoffi cael Ninja a fyddai'n ei dysgu sut mae bod yn dawel, cyflym ac anweledig. Ond pan mae'r Ninja’n dwyn rhywbeth sy'n bwysig iawn iddi, mae Rita'n ailfeddwl.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Máire Zepf wedi ysgrifennu 12 o lyfrau i blant, o lyfrau lluniau i nofel penillion Oedolion Ifanc. Ennillydd KPMG Children’s Book of the Year, gwobr Réics Carló a White Raven yn 2020, mae ei llyfrau wedi eu cyfieithu i 8 iaith. Yr awdur o County Down oedd y Cymrawd Ysgrifennu Plant cyntaf ar gyfer Gogledd Iwerddon, wedi ei lleoli yng nghanolfan
Seamus Heaney Centre for Poetry yn QUB (2017-19). Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Quotidian – Word on the Street.
Mae Andrew Whitson yn ddarlunydd arobryn ac yn frodor o Belfast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dy sy’n swatio ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynol yng nghysgod trwyn cawr. Mae ei dy yn edrych i lawr dros Harbwr Belfast lle cafodd y Titanic ei adeiladu ac i fyny at ‘Belfast Cavehill’ lle bu i awyren fomio Americanaidd ‘B-17 Flying Fortress’ gwympo yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun, y mwyaf diweddar ohonynt yw cyfres Mali gyda Malachy Doyle a chyfres llyfrau lluniau arobryn Rita gyda Máire Zepf.