Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370

Mae Rita Eisiau Tylwythen Deg

Graffeg

Mae Rita Eisiau Tylwythen Deg

Regular price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Máire Zepf

ISBN: 9781802580457
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Chwefror 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Mr Ando
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x251 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma Rita. Mae Rita'n ferch fach â syniadau mawr. Pan mae’n diflasu wrth orfod gwisgo amdani, mae'n dychmygu bod ganddi dylwythen deg. Byddai'r dylwythen yn chwifio'i ffon hud - wwsh! - ond beth fyddai diwedd hyn i gyd?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Máire Zepf wedi ysgrifennu 12 o lyfrau i blant, o lyfrau lluniau i nofel penillion Oedolion Ifanc. Enillydd KPMG Children’s Book of the Year, gwobr Réics Carló a White Raven yn 2020, mae ei llyfrau wedi eu cyfieithu i 8 iaith. Yr awdur o County Down oedd y Cymrawd Ysgrifennu Plant cyntaf ar gyfer Gogledd Iwerddon, wedi ei lleoli yng nghanolfan Seamus Heaney Centre for Poetry yn QUB (2017-19). Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Quotidian – Word on the Street.

Mae Andrew Whitson yn ddarlunydd arobryn ac yn frodor o Belfast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dþ sy’n swatio ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynol yng nghysgod trwyn cawr. Mae ei dþ yn edrych i lawr dros Harbwr Belfast lle cafodd y Titanic ei adeiladu ac i fyny at ‘Belfast Cavehill’ lle bu i awyren fomio Americanaidd ‘B-17 Flying Fortress’ gwympo yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun, y mwyaf diweddar ohonynt yw cyfres Mali gyda Malachy Doyle a chyfres llyfrau lluniau arobryn Rita gyda Máire Zepf.