Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Sioned Wyn Roberts
ISBN: 9781913245368
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Mawrth 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Sioned Wyn Roberts
Fformat: Clawr Meddal, 199x131 mm, 192 tudalen
Iaith: Cymraeg
‘Dim ond un rebel sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth. A ti ydy honno, Magi.’ Yn 1867 mae bywyd yn anodd, ac os wyt ti'n dlawd mae’n uffern. Nofel ddirgelwch wedi'i gosod mewn wyrcws yn Oes Fictoria.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned fod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Gwybodaeth Bellach:
Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau'n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi.
Mae'n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o'i le yn y Wyrcws, ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi'r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos?
Dyma ei stori hi ...
Nofel antur Fictoraidd, llawn dirgel a plot sy’n parhau i droelli hyd at y diwedd!