Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Ceri a Deri: Y Map Trysor

Graffeg

Ceri a Deri: Y Map Trysor

Regular price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Max Low

ISBN: 9781912213993
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Max Low
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mary Jones.
Fformat: Clawr Meddal, 250x250 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Ceri'r gath a Deri'r ci yn ffrindiau gorau sy'n gwneud popeth gyda'i gilydd ac yn dwlu dysgu pethau newydd. Pan gaiff Ceri hen fap môr-ladron, mae'r ddau ffrind yn dilyn y cyfarwyddiadau i chwilio am y trysor gyda help eu ffrindiau, yr arddwraig Glesni, yr optegydd Owain a'r ffermwraig Ffion. Ond pa drysor fyddan nhw'n ei ddarganfod?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Graddiodd Max Low yn Ysgol Gelf Henffordd, a dewiswyd ef gan yr awdures arobryn Nicola Davies i ddarlunio Bee Boy and The Moonflowers, sef y stori olaf ond un yng nghyfres Graffeg Shadows and Light. Cyfres Ceri a Deri yw'r gweithiau cyntaf iddo'u hysgrifennu a'u darlunio ei hunan.