Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370

Watcyn Ddewr

Graffeg

Watcyn Ddewr

Regular price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Eva Papoušková

ISBN: 9781802581348
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Mai 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Galina Miklínová
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Melangell Dafydd.
Fformat: Clawr Meddal, 250x250 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma Watcyn y Wombat yn mentro tu allan i'w dyllfa ac i mewn i goedwig dywyll, lle mae'n cwrdd â llwynog cyfrwys a hengall. Mae'r llwynog yn ffansïo Watcyn fel ei ginio, ac mae Watcyn mewn cymaint o ofn mae'n methu symud! Tybed a fydd Watcyn yn medru canfod digon o ddewrder i wynebu'r sefyllfa?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Mae Eva Papoušková yn awdur dramâ sgrin, llyfrau a scriptiau dramâu. Graddiodd o’r adran ysgrifennu sgrin yn FAMU ac mae wedi ysgrifennu mwy na 120 awr ar gyfer teledu amser brig. Mae hi wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr Malcolm Clarke, sydd wedi ennill Oscar. Ar hyn o bryd mae hi’n canolbwyntio ar ddysgu ysgrifennu sgrin yn Saesneg ac yn ysgrifennu llyfrau uchel eu clod i blant yn Tsiec.

Cyfarwyddwr, animeiddiwr a darlunydd Tsiec ydyw Galina Miklínová. Graddiodd o Academi y Celfyddydau, Pensaernïaeth a Dylunio ym Mhrâg ac astudiodd hefyd ym Mhrifysgol Glannau Humber yn y DU. Ymhlith ei chredydau teledu a ffilm mae Vecernícek O Kanafáskovi, Lichožrouti, enillydd yr Ŵyl Ffilm Plant Ryngwladol yn Chicago.