Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370
Awdur: Manon Steffan Ros
ISBN: 9781914303173
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Hydref 2022
Cyhoeddwr: BROGA
Darluniwyd gan Valeriane Leblond
Fformat: Clawr Meddal, 241x211 mm, 32 tudalen
Iaith: Saesneg
Dyma stori ysbrydoledig y bachgen swil o Dredegar a ddaeth yn un o wleidyddion pwysicaf Prydain. Dilynwn ei siwrne o'r pwll glo i Dŷ'r Cyffredin, ynghyd â sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS). Cyflwynir y stori mewn iaith syml a chlir, gyda darluniau hyfryd. Perffaith i'w ddarllen gyda phlentyn, neu ar gyfer darllenwyr newydd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Awdures hynod o boblogaidd sydd wedi ysgrifennu nifer fawr o lyfrau i blant ac oedolion. Enillodd wobr Tir na n-Og bedair o weithiau, a chafwyd llwyddiant ysgubol gyda'i nofel i oedolion ifanc, Llyfr Glas Nebo. Mae'n byw yn Nhywyn, mewn hen siop losin.