Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
ISBN: 9781800992764
Dyddiad Cyhoeddi: 02 Tachwedd 2022
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Golygwyd gan Ffion Eluned Owen
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 140 tudalen
Iaith: Cymraeg
 Chymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, dyma gyfrol i danio ac ysbrydoli cyn y twrnament mawr ym mis Tachwedd, yn cynnwys ugain o gyfraniadau gan gefnogwyr amrywiol.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:
Ceir cyfraniadau gan
Greg Caine,
Garmon Ceiro,
Iolo Cheung,
David Collins,
Tommie Collins,
Rhian Angharad Davies,
Meilyr Emrys,
Annes Glynn,
Gwennan Harries,
Rhys Iorwerth,
Dafydd Iwan,
Llion Jones,
Bryn Law,
Sarah McCreadie,
Penny Miles,
Sage Todz ft. Marino
a Fez Watkins.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Ffion Eluned Owen yn un o aelodau selog y Wal Goch. Mae hi wedi dilyn Cymru o Stockholm i Baku ac o China i Albania a bydd yn mynd i Qatar. Mae i’w gweld a'i chlywed ar y cyfryngau yn gyson yn trafod hynt a helynt y tîm pêl-droed cenedlaethol. Mae ganddi PhD mewn astudiaeth o ddiwylliant llenyddol Dyffryn Nantlle ac mae'n gweithio i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gwybodaeth Bellach:
Drwy lygad rhai o aelodau'r Wal Goch cawn flas ar hanesion dilyn y tîm i bedwar ban; cip ar y caneuon, yr hwyl a'r ffasiwn; a golwg arbennig ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a'r Gymraeg. Mewn casgliad amrywiol o ysgrifau, cerddi, dyfyniadau a lluniau, fe archwilir emosiwn, effaith a dylanwad dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol, a gwelwn sut mae'r Wal Goch wedi dod i gynrychioli'r Gymru gyfoes.