Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Daearyddiaeth - Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Daearyddiaeth - Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl

Regular price £8.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Marie Busfield, Hywel Griffiths, Cerys Jones, Rhys Jones, Rhys Dafydd Jones

ISBN: 9781845217303 
Dyddiad Cyhoeddi: 09 Mawrth 2020
Cyhoeddwr: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Fformat: Clawr Meddal, 246x187 mm, 196 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae'r llyfr cyffrous a chynhwysfawr hwn yn ymdrin ag amrediad eang o themâu a astudir fel rhan o bwnc Daearyddiaeth, gan gynnwys prosesau dynol, ffisegol ac amgylcheddol. Mae'n addas i fyfyrwyr Safon Uwch, ynghyd â'r rheiny sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Brifysgol.

Gwybodaeth Bellach:
Ymhob pennod ceir cyfuniad o drafodaeth gysyniadol ac astudiaethau achos difyr a pherthnasol. Yn ogystal, cyflwynir syniadau ymarferol am brosiectau ymchwil; rhai y gall y myfyrwyr eu cymhwyso i’w prosiect ymchwil Safon Uwch neu draethawd estynedig yn y Brifysgol. Yn olaf, pwysleisir defnyddioldeb Daearyddiaeth – yn ogystal ag astudio Daearyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg - ar gyfer dilyn gwahanol yrfaoedd.

• Mae’r llyfr hwn yn pontio rhwng y cwrs Daearyddiaeth Safon Uwch a chyrsiau gradd Daearyddiaeth;
• Gwaith gwreiddiol gan ddarlithwyr Daearyddiaeth cyfrwng Cymraeg, yn hytrach nag addasiad o werslyfr Saesneg, ac felly mae wedi’i ysgrifennu yng nghyd-destun Cymru;
• Mae wedi’i fonitro gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac athrawon sy’n addysgu’r cwrs Daearyddiaeth Safon Uwch, i sicrhau ei fod yn addas.