Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

A470 - Poems for the Road | Cerddi’r Ffordd

Sian Northey | Ness Owen

A470 - Poems for the Road | Cerddi’r Ffordd

Regular price £9.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

ISBN: 9781913665555
Dyddiad Cyhoeddi: 01 Mawrth 2022
Cyhoeddwr: Arachne Press Limited
Golygwyd gan Sian Northey, Ness Owen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Sian Northey, Ness Owen.
Fformat: Clawr Meddal, 200x130 mm, 114 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

♥ Llyfr Saesneg y Mis: Chwefror 2022
Be ydi'r A470 i chi – siwrne dawel trwy harddwch Cymru neu daith araf a diddiwedd? Ai hon yw'r ffordd i adael, neu'r ffordd adref, neu ddechrau datganoli? Parciau Cenedlaethol, ffyrdd osgoi, llusgo mynd tu ôl i lori neu waeth fyth garafán, y ffordd i'r Sioe Frenhinol?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:

Contents/Cynnwys
The Road Traverses Glyn Edwards
Introduction/Cyflwyniad Sian Northey and Ness Owen
Road Hog Des Mannay
Hacrwch Siôn Aled
A Mountain We Climb Rhys Owain Williams
Blaenau Road Sign Happiness Cas Stockford
Blodeuwedd Crosses the Road Diana Powell
Rhyw Bedair Awr Sian Northey
I’r A470 Tudur Dylan Jones
Allan o Betrol Gwyn Parry
Storm Journey Eabhan Ní Shuleibháin
Gwydion Southbound Kevin Mills
Ar y ffordd adra Haf Llewelyn
Travel Sick Ness Owen
Tickets Gareth Culshaw
Gyrru Trwy’r Tywyllwch Non Prys Ifans
Red Flowers Mike Jenkins
Commins Coch Osian Owen
North/South Divide Nicholas McGaughey
Someone Coughs in Another Language Seth Crook
The Cambrian Way Rebecca Lowe
Cynhadledd yn y Gwesty Gwyrdd Sara Louise Wheeler
The Art of Embroidering a Road Through the Eye of Heaven Adele Evershed
Ancient Navigations Matthew M.C. Smith
More Than Winter K.S. Moore
Eira ar y Bannau Mari George
Pipistrelle Rae Howells
Oh Road Julian Brasington
Like My Jealousy Jeremy Dixon
A470, 2021 Annes Glynn
Unzipping Wales Ben Ray
Pwll y Wrach Sammy Weaver
Ar ffo (A470) Osian Jones
Lay-By, Storey Arms Pass Gareth Writer-Davies
Prodigal Natalie Ann Holborow
Edefyn Ion Thomas
An Irishwoman is Introduced to the Major Roads of Wales Angela Graham
I Ferthyr Mererid Hopwood
Apollo Over Merthyr Pat Edwards
Lleiniau Llŷr Gwyn Lewis
And in those days... Tracy Rhys
The Crem Conway Emmett
Ar yr A470 Gwenno Gwilym
Pontypridd Museum Stephen Payne
The Lamb Belle Roach
Llawlyfr Mam i Pit-stops Cymru Lowri Williams
Interweaving Christina Thatcher
Hippopotamus Cambrensis David Mathews
Dad Rhiannon Oliver
Boreudaith Morgan Owen
Cwlt yr A470 Simon Chandler
Taith, Teithio – Iaith, Ieithio clare e. potter
Mae’r Ffordd Glyn Edwards

Bywgraffiad Awdur:
Mae Sian Northey yn awdur llawrydd ac mae bellach wedi ysgrifennu,
cyfi eithu neu olygu dros 17 o lyfrau,yn amrywio o farddoniaeth i nofelau ar gyfer plant. Magwyd Sian yn Nhrawsfynydd ac mae bellach yn
byw ym Mhenrhyndeudraeth, yng Ngwynedd. Mae ganddi Ddoethuriaeth
mewn Ysgrifennu Creadigol o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Mae Ness Owen yn fardd ac awdur sydd yn byw yn Ynys Môn. Mae’n
ysgrifennu dramâu, barddoniaeth ddwyieithog a straeon yn ogystal â
darlithio a ffermio. Cyhoeddwyd ei chasgliad o farddoniaeth, 'Mamiaith', gan Arachne Press yn 2019.

Gwybodaeth Bellach:
Anghofiwch y lôn llai ei defnydd. Mae’r A470 yn un sydd wedi ei threulio a’i thrafaelio, o’r mwstwr i’r rhwystrau mawr a geir arni. Ceir teithiau hamddenol yn ogystal â rhai sy’n fater o raid i gyrraedd pen siwrnai. Fel darllenwyr, gallwn eistedd yn ôl yn hollol ddiofal gyda’r atgof o’r gwibdeithiau dirgel yna a drefnwyd slawer dydd heb wybod pen y daith. Pwy fyddai wedi meddwl y gallai heol mor chwedlonol, yr A470 fod yn destun sgwrs gan greu y fath fywiogrwydd , fel iddi ysbrydoli beirdd i ffri-wilio. Hwyrach y dylai’r cerddi hyn gyfnewid y meini gwyn ochr- y- ffordd fel y rhai a welir ar draws Cymru. Nawr dyna syniad ! Haedda’r gyfrol deithio ar hyd a lled yn y ddwy iaith ond ceir cant o leisiau yma. Rhyfeddod o flodeugerdd ac un hawdd -ei-chael fel cydymaith taith heb ei hail.
Menna Elfyn