Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Albert yn yr Awyr

Graffeg

Albert yn yr Awyr

Regular price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Ian Brown

ISBN: 9781802581720
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Eoin Clarke
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x251 mm, 36 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Albert y crwban anwes yn aml yn meddwl am y bywyd sydd y tu hwnt i'w ardd. I ble mae ei ffrindiau'n diflannu heibio i'r ffensys, y gatiau a'r waliau? Daw cyfle i Albert fynd ar antur go iawn ac i weld ei fyd o'r newydd. Ar ei daith, mae'n dod i sylweddoli nad oes man gwyn man draw bob un tro ... a bod cael ffrindiau da a chartref yn bethau i'w trysori. Addasiad Cymraeg.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:

Cyn-newyddiadurwr sydd hefyd wedi troi ei law at gyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu yw Ian Brown. Mae Ian wedi sgwennu neu gyfarwyddo ar gyfer nifer o enwau cyfarwydd, gan ennill sawl gwobr am ei waith. Bu sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd ganddo ers tro. Mae’n rhannu ei gartref â’i wraig Millie, dwy gath, ambell greadur arall – a chrwban o’r enw Albert.

Graddiodd Eoin Clarke mewn dylunio graffeg o Brifysgol Middlesex, ac enillodd MA mewn animeiddio o'r Coleg Celf Brenhinol. Mae wedi gweithio yn y diwydiant animeiddio am ddeg mlynedd ar hugain fel cyfarwyddwr, animeiddiwr, dylunydd ac artist bwrdd stori. Mae dod ag Albert yn fyw wedi bod yn bleser.