Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Cynan a'r Sêr

Graffeg

Cynan a'r Sêr

Regular price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Julia Rawlinson

ISBN: 9781802583137
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Tiphanie Beeke
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce.
Fformat: Clawr Meddal, 251x201 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg

Wrth i Cynan edrych ar awyr y nos, mae'r sêr yn diflannu fesul un – ac mae ei ffrind newydd, y mochyn daear, yn ofn tywyllwch! Mae gan Cynan gynllun er mwyn achub y sêr, ond sylweddola'r ddau wrth rasio drwy'r goedwig rynllyd, nad yw'n hawdd cyrraedd y sêr ... a bod help i'w gael o'r llefydd mwyaf annisgwyl. Addasiad Cymraeg o Fletcher and the Stars.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:

Mae Julia Rawlinson yn awdur barddoniaeth a llyfrau lluniau plant sydd wedi cael ei chydnabod a’i gwerthu yn rhyngwladol. Mae ei gweithiau diweddar eraill yn cynnwys Sweet Dreaming, Dragon’s Lost Roar a Mule School.

Mynychodd Tiphanie Beeke y Coleg Celf Frenhinol lle enillodd radd Meistr mewn Darlunio ac ers hynny mae wedi arbenigo mewn llyfrau plant. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys darluniau ar gyfer Fast Asleep in a Little Village in Israel a Changes: A Child’s First Poetry Collection.

Gwybodaeth Bellach:
Ymuna â Cynan a'i ffrindiau yn y stori hyfryd, serog hon wrth iddyn nhw ddysgu am y byd o'u cwmpas, ac am bwysigrwydd cyfeillgarwch.