Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Flourish - A Golden Age for Ceramics in Wales

Llyfrau Amgueddfa Cymru

Flourish - A Golden Age for Ceramics in Wales

Regular price £19.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awduron: Andrew Renton, Oliver Fairclough, Rachel Conroy

ISBN: 9780720006551
Dyddiad Cyhoeddi: 31 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Llyfrau Amgueddfa Cymru/National Museum Wales Books
Golygwyd gan Mari Gordon
Fformat: Clawr Meddal, 270x220 mm, 160 tudalen
Iaith: Saesneg

Am bron i 160 o flynyddoedd bu de Cymru yn gartref i ddiwydiant crochenwaith a phorslen anhygoel. Cynhyrchwyd amrywiaeth rhyfeddol o eitemau, o lestri bob-dydd i gomisiynau personol drudfawr a gwrthrychau hynod ffasiynol.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Tabl Cynnwys:

Rhagair, gan Lowri Davies
Cyflwyniad, Andrew Renton
Blynyddoedd cynnar Crochenwaith Abertawe 1764-1789, Andrew Renton
Oes aur Crochenwaith Cambrian 1789-1824, Andrew Renton
Gwaith Tsieni Abertawe 1814-1826, Oliver Fairclough
Gwaith Tsieni Nantgarw 1813-1814 a 1816-1823, Oliver Fairclough
Crochenwaith Cambrian diweddar 1824-1870, Rachel Conroy
Crochenwaith Morgannwg 1813-1838, Rachel Conroy
Crochenwaith De Cymru 1840-1922, Rachel Conroy
Unigolion blaenllaw
Marciau’r gwneuthurwyr
Deunydd darllen pellach

Bywgraffiad Awdur:
Andrew Renton yw Pennaeth y Casgliadau Dylunio yn Amgueddfa Cymru.

Bu Oliver Fairclough yn Bennaeth Celf a mae o nawr yn gymrawd anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru.

Rachel Conroy oedd Curadur Celf Cymhwysol Amgueddfa Cymru, mae hi bellach yn uwch guradur genedlaethol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gwybodaeth Bellach:
Am bron i 160 o flynyddoedd bu de Cymru yn gartref i ddiwydiant crochenwaith a phorslen anhygoel. Cynhyrchiwyd amrywiaeth ryfeddol o eitemau, o lestri bob-dydd i gomisiynau personol drudfawr a gwrthrychau hynod ffasiynol.

Mae’r llyfr hwn yn edrych ar y cyfnod honno rhwng y 1760au a’r 1920au pan oedd grŵp bychan o arloeswyr yn Abertawe, Nantgarw a Llanelli yn defnyddio eu talent, angerdd ac arian i berffeithio'r grefft o greu crochenwaith a phorslen. Dysgwn am eu hymdrechion gyda’r prosesau a deunyddiau – rhai yn llwyddiannus, eraill yn fethiant llwyr. Gyda ffotograffiaeth newydd, manwl, lliw-llawn, cawn ddathlu hefyd sgiliau hynod yr artistiaid a fu’n addurno’r gweithiau mor gywrain. Prawf, os oedd angen, bod y cyfnod llewyrchus hwn wir yn oes aur i gerameg yng Nghymru.