Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Weithiau Dwi’n Gandryll | Sometimes I am Furious

Atebol

Weithiau Dwi’n Gandryll | Sometimes I am Furious

Regular price £12.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Timothy Knapman

ISBN: 9781801061629
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Rhagfyr 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Joe Berger
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam.
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
Fformat: Clawr Caled, 288x230 mm, 32 tudalen
Iaith: Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Llyfr stori-a-llun doniol gan y ddeuawd hynod boblogaidd Timothy Knapman a Joe Berger am yr heriau o fod yn blentyn bach ac o fod yn rhiant i blentyn bach! Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Sometimes I Am Furious.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Merch fach… teimladau MAWR!
Mae bywyd yn sbort a sbri pan mae popeth yn iawn. Ond weithiau, rhai dyddiau, bydd rhywbeth yn hynod o ANHEG. Hufen iâ yn toddi, crys-t sy’n rhy dynn, bachgen sy’n gwrthod rhannu ... mae’n ddigon i’ch gwneud chi’n GANDRYLL. Ond, fel mae’r ferch fach hon yn darganfod, gall hi ddatrys popeth gydag anadl ddwfn, cân hapus a chwtsh cynnes, clyd.
Llyfr doniol ac annwyl sy’n hawdd uniaethu ag o ar gyfer plant ifanc am deimladau cryfion a sut i ddelio â nhw. Gyda chyngor ymarferol yn rhan o’r stori, mae’r llyfr hwn yn annog sgwrs rhwng oedolyn a phlentyn.