Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Ifor Wyn Williams
ISBN: 9781845278335
Dyddiad Cyhoeddi: 19 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 252 tudalen
Iaith: Cymraeg
Dychmygwch yr olygfa: Mam a'i mab ifanc yn sefyll ar bentir uchel ger Dulyn yn Iwerddon ac mae hi'n pwyntio at wlad fynyddig ar y gorwel. 'Dacw Wynedd,' meddai wrth ei mab. 'Dyna deyrnas Cynan, dy dad. Bu'n rhaid iddo ffoi a gadael – ond rhyw ddiwrnod byddi di'n dychwelyd yno a thi fydd Brenin Gwynedd.'
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Ar y freuddwyd honno y magwyd Gruffudd ap Cynan. Daeth y freuddwyd yn wir – croesodd y môr i Gymru gyda byddin o Ddulyn a brwydrodd i adennill ei deyrnas. Ond nid oedd y daith honno yn un esmwyth – rhwng wynebu gelynion o Gymru a thwyll a mileindra’r Normaniaid, cafodd ei brofi i’r eithaf. Eto, roedd fflam eiriasboeth yn llenwi ei ysbryd gyda gwres o’r gorllewin ...
Enillodd Gwres o’r Gorllewin y Fedal Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1971.
‘nofel Gymraeg arbennig iawn – y teimlad a geir yw fod yr awdur wedi ‘byw’ carchariad maith ac arteithiol Gruffudd gydag ef ... Mae’r gymeriadaeth a’r myfyrio’n gampus, a’r portread o Gruffudd ap Cynan yn orchestwaith.’ – Islwyn Ffowc Elis