Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Nid Sianel Gyffredin Mohoni! - Hanes Sefydlu S4C

Gwasg Prifysgol Cymru

Nid Sianel Gyffredin Mohoni! - Hanes Sefydlu S4C

Regular price £16.99 Sale price £7.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Elain Price

ISBN: 9781783168880
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2016
Cyhoeddwr: Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
Fformat: Clawr Meddal, 217x138 mm, 286 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dyma'r astudiaeth gyntaf o hanes blynyddoedd cynnar y sianel deledu S4C, un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru. Trwy gyfrwng cofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau, eir ati i gloriannu penderfyniadau a gweithgareddau'r sianel yn ystod y cyfnod prawf rhwng 1981 a 1985.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Tabl Cynnwys:

Rhagymadrodd
Pennod 1 - Y frwydr dros sianel deledu Gymraeg
Pennod 2 - Deunaw mis o baratoi – dyddiau cynnar Awdurdod Sianel Pedwar Cymru
Pennod 3 - Gwireddu'r arbrawf – darllediadau cyntaf ac argraffiadau'r gynulleidfa
Pennod 4 - Mentrau ariannol – sicrhau telerau teg ac ehangu i feysydd newydd
Pennod 5 - Adolygu'r sianel – arolygon barn ac archwiliad y Swyddfa Gartref
Cloriannu

Bywgraffiad Awdur:
Mae Dr Elain Price yn Ddarlithydd ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Gwybodaeth Bellach:
Dyma'r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy'n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau'r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio'r sialensiau, y llwyddiannau a'r methiannau fu'n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai'n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o'r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i'w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i'w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy'n ymddangos yn gynyddol ansicr.