Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370

A am Anghenfil

Huw Aaron

A am Anghenfil

Regular price £6.95
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Huw Aaron

ISBN: 9781845278281
Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
Fformat: Clawr Meddal, 230x210 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg

A am Anghenfil. B am Bwci-bo. Pwy arall fydd yn dod draw am de parti ’sgwn i? Cerdd hollol hurt a doniol gan yr artist Huw Aaron yn cymeriadu'n lliwgar holl lythrennau'r wyddor.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:

Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyrau a chylchgronau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? a Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n-Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth gan Elidir Jones ac a ddarluniwyd ganddo gategori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020.

Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o’i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel YouTube ‘Criw Celf’, gyda’i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau.