Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Derec Llwyd Morgan
ISBN: 9781845278175
Dyddiad Cyhoeddi: 23 Ebrill 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 216x138 mm, 80 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyn dilyn gyrfa fel ysgolhaig, bardd ifanc yn cyfansoddi cerddi llawn bywyd a dychymyg oedd Derec Llwyd Morgan. Yn ei ddyddiau aeddfed, mae'r casgliad cyffrous a bywiog hwn yn dangos fod elfen y bardd yn agos at ei galon ac yn tynnu ar ei egni creadigol o hyd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Cerddi diweddar yw'r mwyafrif o'r cerddi hyn. Mae yma amrywiaeth o fesurau ac arddulliau, ac yng ngeiriau'r bardd ei hun 'gellir dweud bod ynddynt glod, ysmaldod a mwy'.
Mae'n dathlu bywydau cyfeillion a chydweithwyr y mae'n hiraethu ar eu hôl ac mae'n agored a gogleisiol wrth drafod 'y cariad priodasol a'm cynhaliodd gyhyd'. Cynhwysir cerddi cynnes y tad-cu hefyd. Mae ganddo sawl cerdd am fod yng nghwmni Joel, ei ŵyr awtistig – ei 'ŵyr bach syn hoff'. Drwyddynt, cawn weld awtistiaeth nid fel 'cyflwr' ond fel dawn.
Casgliad cyfoes, cyffrous gan fardd sy'n poeni digon i ddamnio ac yn mwynhau bywyd ddigon i fod yn chwareus.