Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Brynhyfryd

Lona Patel

Brynhyfryd

Regular price £8.50
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Lona Patel

ISBN: 9781845277949
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 234 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Ann yn dechrau ar bennod newydd yn ei bywyd ym Medi 1956 wrth symud o gefn gwlad Pen Llŷn i Fangor i ddilyn cwrs yn y coleg. Caiff lety mewn tŷ cysurus yn Rhes Brynhyfryd ym Mangor Uchaf - ond yn fuan iawn mae hi'n dechrau teimlo bod rhywbeth yn od ynglŷn ag ymddygiad ei landledi, Mrs Powell. A sut mae profiad Ann yn y coleg yn effeithio ar fywyd y Parchedig Prysor Hughes yn 1974?

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Lona Patel ei magu ym Mhen Llŷn, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a'r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montréal ac wedyn i Buffalo, Efrog Newydd. Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr a'r Rhiw yn Llŷn. Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, a chyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Weirglodd Wen, yn 2016.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Ann yn dechrau ar bennod newydd yn ei bywyd ym Medi 1956 wrth symud o gefn gwlad Pen Llŷn i ddilyn cwrs yn y coleg ym Mangor. Caiff lety mewn tŷ cysurus yn Rhes Brynhyfryd ym Mangor Uchaf ‒ ond yn fuan iawn mae hi'n dechrau teimlo bod rhywbeth yn od ynglŷn ag ymddygiad ei landledi, Mrs Powell. A sut mae profiad Ann yn y coleg yn effeithio ar fywyd y Parchedig Prysor Hughes yn 1974?