Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Chwerwfelys

Rebecca Roberts

Chwerwfelys

Regular price £8.00
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Rebecca Roberts

ISBN: 9781845278076
Dyddiad Cyhoeddi: 06 Rhagfyr 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 199x127 mm, 234 tudalen
Iaith: Cymraeg

Dilyniant i'r nofel boblogaidd Mudferwi, a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Alys yn byw ei breuddwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda'i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia, mae'n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â'r bwyty.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.

Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.

Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn gynharach yn 2020.

Enillodd #Helynt Wobr Tir na n-Og 2021 a’i chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Alys wedi cael ei breuddwyd: mae hi’n rhedeg bwyty llwyddiannus yn ei phentref genedigol yn Nyffryn Clwyd efo’i chariad, y cogydd golygus Duncan Stuart. Ond dyw bywyd ddim yn fêl i gyd – pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia mae’n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â’r bwyty. Daw John, ffrind gorau Duncan, i roi help llaw iddi, ond doedd Alys ddim wedi ystyried y byddai’n gorfod delio â Lydia, cyn-wraig drafferthus a sbeitlyd Duncan.