Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: J. Richard Williams
ISBN: 9781845278090
Dyddiad Cyhoeddi: 24 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 68 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae hi'n bwysig cofio a dathlu arwyr o Gymru. Yn y gyfrol hon ceir hanes mwy o arwyr diddorol ein gwlad. Chwaer-gyfrol i 20 o Arwyr Cymru yng nghyfres Amdani.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Richard Williams yn dod yn wreiddiol o Rhosgoch, Ynys Môn, ond mae o’n byw yn Llangefni rŵan.
Mae o wedi ymddeol o’i waith fel pennaeth ysgol. Mae o wrth ei fodd yn ysgrifennu llyfrau am hanes yr ynys. Mae Richard hefyd yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth ac mae o’n rhan o Orsedd Beirdd Môn.
Gwybodaeth Bellach:
Mae hi’n bwysig cofio a dathlu arwyr o Gymru. Maen nhw’n bobl sydd wedi newid hanes, newid Cymru, ac efallai newid y byd. Ar ôl ysgrifennu’r llyfr cyntaf 20 o Arwyr Cymru, roedd yr awdur yn teimlo bod llawer iawn mwy o arwyr diddorol, felly dyma ugain arall i chi ddarllen amdanyn nhw. Dyma fwy o arwyr Cymru.
Rhan o gyfres Amdani. Addas i Ddysgwyr Uwch.