Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Anni Llŷn
ISBN: 9781845278472
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Ebrill 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 76 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Ceri wedi symud yn ôl i bentre Garn Fadryn ym Mhen Llŷn. Mae hi'n symud i hen dŷ ei nain i redeg Gwely a Brecwast. Addas i ddysgwyr Lefel Sylfaen.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Anni Llŷn yn byw yng Ngarn Fadryn gyda'i gŵr Tudur a'u plant. Mae hi'n gweithio fel awdur a chyflwynydd teledu. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda phlant a phobol ifanc. Hi oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017. Mae hi'n hoff iawn o ddweud straeon wrth ei phlant, yn hoff o ganu a chyfansoddi gyda'r gitâr ac yn hoff o dreulio amser yn ei chartref ym Mhen Llŷn.
Gwybodaeth Bellach:
Mae'r tŷ ger Mynydd y Garn. Aneirin ydy'r person cynta i ddod i aros yna. Ond mae rhywbeth yn rhyfedd amdano fo. Mae gynno fo obsesiwn gyda'r mynydd. Ar noson stormus mae Aneirin a Ceri yn dod o hyd i rywbeth arbennig. Yn fuan iawn mae'r heddlu yn chwilio am Aneirin ac yn chwilio am atebion.