Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Cyfrinachau

Eluned Phillips

Cyfrinachau

Regular price £10.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Eluned Phillips

ISBN: 9781912905416
Dyddiad Cyhoeddi: 08 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Honno
Golygwyd gan Menna Elfyn
Fformat: Clawr Meddal, 186x124 mm, 176 tudalen
Iaith: Cymraeg

♥ Llyfr y Mis: Awst 2021
Nod y llyfr hwn yn y gyfres Clasuron Cymraeg Honno yw cyflwyno i'r cyhoedd nofel anghyhoeddedig Eluned Phillips, 'Cyfrinachau', ynghyd â'r gerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd arobryn hi ei hun ar gyfer cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1967.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Yn 2018, pan greodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru restr o 100 o Fenywod Cymru i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, yr oedd enw Eluned Phillips (1914-2009), o bentref Cenarth yn ne Ceredigion, ymhlith yr hanner cant o fenywod o'r gorffennol a ddewiswyd oherwydd ei bod wedi cael ‘cryn effaith ar fywyd yng Nghymru'. Clodforwyd hi gan y Rhwydwaith fel 'yr unig fenyw i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith', ond gwyddom erbyn hyn ei bod hefyd wedi ysgrifennu nifer o gerddi, dramâu a nofelau na chafodd eu cyhoeddi erioed.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel yw hon sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, yn seiliedig ar berthynas Eluned Phillips yr awdur â Per, Llydäwr ifanc y cyfarfu ag ef pan oedd yn byw ym Mharis ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Ni wyddys faint o’r digwyddiadau sy’n wir a faint sy’n gynnyrch creadigrwydd a dychymyg yr awdur, ond gwyddom ei bod wedi rhoi lloches i nifer o Lydawyr a gyhuddwyd o gydweithio gyda’r Almaenwyr yn ei chartref yng Nghenarth.
Mae Yann ar gychwyn y nofel yn garcharor yn Llydaw am iddo, yn rhinwedd ei swydd fel newyddiadurwr, gael ei weld yn cymdeithasu ag Almaenwr. Mae Tegwen, ei gariad, wedi dychwelyd at ei mam i’w fferm fechan yng ngorllewin Cymru. Un dydd daw André, ffrind Yann â’r newydd trychinebus bod Yann mewn carchar yn Llydaw yn aros i gael ei ddedfrydu fel bradwr a’i ddienyddio.

O hyn ymlaen mae pethau’n symud yn gyflym gyda Tegwen ac André’n dychwelyd i Lydaw i gynllunio sut i helpu Yann i ffoi o’r carchar.
Cyn diwedd y stori lawn cariad a chasineb, teyrngarwch a brad, cenfigen a gwewyr, awn o Lydaw i Gymru i Iwerddon a’r America. Dyma gyfres o brofiadau sy’n codi gwallt y pen, ac o ddiddordeb arbennig hyd heddiw, gan i gymaint o Lydawyr mewn bywyd go iawn ddioddef yr un fath o erledigaeth.
Dyma drysor o glasur, ac yn dilyn y nofel cyhoeddir am y tro cyntaf erioed drysor arall, sef y gerdd ‘Corlannau Bywyd: La Môme Piaf’ (Llwyd Bach y Baw) am y gantores Ffrengig Edith Piaf yr oedd Eluned Phillips yn ei hadnabod yn dda, ygerdd a ddaeth yn ail i’w cherdd fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1967.