Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Damelsa: Damelsa ac Ysbrydolion yr Ysbrydion

Dalen

Damelsa: Damelsa ac Ysbrydolion yr Ysbrydion

Regular price £6.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Holly Rivers

ISBN: 9781913573034
Dyddiad Cyhoeddi: 07 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Dalen (Llyfrau) Cyf
Golygwyd gan Alun Ceri Jones
Darluniwyd gan Alex T Smith
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam.
Fformat: Clawr Meddal, 200x130 mm, 348 tudalen
Iaith: Cymraeg

Mae Damelsa wrth ei bodd yn creu dyfeisiadau rhyfeddol. Mae hi hefyd wedi etifeddu dawn ei Nain i Ysbrydoli Ysbrydion. Ond pan fo rhyw ddihiryn yn cipio Nain, mae Damelsa'n gwybod bod gan ysbrydoli ysbrydion ran fawr i'w chwarae yn y mater. Tybed all hi ddatrys y dirgelwch hwn, ac achub Nain? Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam o Demelza and the Spectre Detectors.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Addasiad o Demelza and the Spectre Detectors, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020. Dyma nofel gyntaf yr awdures Gymraeg ifanc o Gaerdydd, Holly Rivers, a'r gyntaf mewn cyfres o dair sydd eisoes wedi cael ei chomisiynu. Cafodd Holly ei haddysg yn ysgolion Cymraeg Coed y Gof a Glantaf yng Nghaerdydd, cyn ennill gradd gyntaf mewn darlledu o Brifysgol Falmouth.

Gwybodaeth Bellach:
Addasiad Cymraeg gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru 2017-19. Mae Casia yn enw cyfarwydd ym maes llenyddiaeth Cymraeg i blant fel awdures a chyfieithydd.