Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Caroline Pitcher
ISBN: 9781802583236
Dyddiad Cyhoeddi: 11 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Graffeg
Darluniwyd gan Sophy Williams
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mary Jones.
Fformat: Clawr Meddal, 251x201 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Mae Rory yn ofni tywyllwch y gaeaf. Felly mae Rory yn creu Draig y Gaeaf gyda chôt werdd a chrib goch lachar. Mae'r ddraig yn dod yn fyw i ddweud storïau am farchogion a brwydrau, am goblynnod a thrysor - a thrwy ei anturiaethau yn ei freuddwydion mae Rory yn dod yn fachgen dewr. Ond wrth i'r gwanwyn ddod yn nes, mae Draig y Gaeaf yn breuddwydio am fynd yn ôl i'w chartref tanllyd.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Mae Caroline Pitcher yn awdur sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n dathlu drwy ysgrifennu, fel byw yr eilwaith. Mae wedi ysgrifennu nifer o nofelau, gan gynnwys y llyfrau llun The Snow Whale, The Time of the Lion, Mariana and the Merchild, Nico's Octopus, The Littlest Owl, Time for Bed, Home Sweet Home a Lord of the Forest.
Cafodd Sophy Williams ei hyfforddi yn yr Ysgol Gelf Ganolog a Choleg Politechnig Kingston mewn dylunio graffeg. Ymhlith ei llyfrau mae Cat in the Dark: A Flurry of Feline Verse, wedi’u crynhoi gan Fiona Waters.