Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Wynne Kinder
ISBN: 9781801061483
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Rhagfyr 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Glyn Saunders Jones.
Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 1/2
Fformat: Clawr Caled, 283x223 mm, 72 tudalen
Iaith: Cymraeg
Rwy'n gryf. Rwy'n ddewr. Rwy'n gallu delio ag unrhyw beth. Llyfr fydd yn helpu pob plentyn i fod yn bositif am yr heriau sy'n eu hwynebu yn ystod eu plentydod. Dyma ganllaw ymarferol, syml sy'n rhoi'r nerth a'r penderfyniad i oresgyn pob problem. Addasiad Cymraeg gan Glyn Saunders Jones o I Am, I Can.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Llyfr fydd yn helpu pob plentyn i fod yn bositif am yr heriau sy’n eu hwynebu yn ystod eu plentyndod. Mae pob plentyn yn wynebu sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn anodd. Mae’r llyfr hwn yn cynnig 365 o syniadau - un am bob dydd o’r flwyddyn - ar sut i fod yn bositif a goresgyn unrhyw sefyllfa anodd. Canllaw ymarferol syml sy’n rhoi’r nerth a’r penderfyniad iddyn nhw oresgyn pob problem. Mae’n cynnig cymhelliant ac anogaeth heb sôn am ddangos sut mae eraill fel Rosa Parks a Greta Thunberg wedi llwyddo.
Mae yma weithgareddau bach syml hefyd i dawelu fel yr olwyn dro neu’r botel bositif. Mae’r pwyslais ar gynnig strategaethau meddwl sy’n gadarnhaol. Beth bynnag fo’r broblem yna “Dw i’n Bril!”