Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Gwennan Evans
ISBN: 9781845278229
Dyddiad Cyhoeddi: 17 Medi 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Darluniwyd gan LLeucu Gwenllian
Fformat: Clawr Meddal, 190x135 mm, 40 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ymunwch efo Ffion a Fflei a'r gwartheg i gyd wrth iddyn nhw fentro ar wyliau arall yng Nghymru.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Daw Gwennan Evans o Ddyffryn Cothi'n wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i dau fab. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac fe ddilynodd drywydd Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ei hymchwil yno. Enillodd radd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ddoniol i blant, Iârgyfwng, yn 2017. Cyhoeddodd stori fer i'r arddegau yn y gyfrol Seren Wib a bydd ei Stori Tic Toc gyntaf i blant bach i'w chlywed ar Radio Cymru yn Hydref 2019. Ym mis Chwefror 2019, treuliodd wythnos yn Nhŷ Newydd ar gwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones. Mae Gwennan hefyd yn barddoni ac wedi ysgrifennu nifer o gerddi i blant ar gyfer sawl Stomp Plant.