Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Ffwlbart Ffred: Yn Dywyll fel Bol Buwch

Atebol

Ffwlbart Ffred: Yn Dywyll fel Bol Buwch

Regular price £6.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Sioned Wyn Roberts

ISBN: 9781913245412
Dyddiad Cyhoeddi: 03 Awst 2021
Cyhoeddwr: Atebol
Darluniwyd gan Bethan Mai
Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 247x246 mm, 28 tudalen
Iaith: Cymraeg

Yr ail lyfr stori a llun mewn cyfres o dri theitl am ffrindiau direidus a’r straeon anhygoel y tu ôl i’n dywediadau mwyaf od fel drewi fel ffwlbart a bwrw hen wragedd a ffyn. Mae Ffred (bachgen 7 oed) a'i ffwlbart (merch) mewn trwbwl bob tro. Ond mae'r ffwlbart yn jiniys ac yn datrys y cwbwl!

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am raglenni 'Cyw' a 'Stwnsh'. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac yn uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Cred Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.

Gwybodaeth Bellach:
• Llyfr stori a llun gwreiddiol
• Testun Cymraeg sy'n odli
• Stori ddoniol sydd wedi’i seilio ar y dywediad yn dywyll fel bol buwch