ISBN: 9781845277314 Publication Date: June 2020 Publisher: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst Format: Paperback, 210x148 mm, 110 pages Language: Welsh
Trafodaeth ar bob iaith dan haul drwy'r Gymraeg. Be wetsoch chi'n gwmws? / Sut ti'n deud? / Be oedd hynna? / Shwt ych chi'n wilia? / Be oedd y gair yna?
The following has been provided by the Publisher: Further Information: #Iaith... dyma safle Facebook sydd wedi tynnu llawer o ddiddordeb ac ysgogi peth wmbreth o ymateb ar y we. Yr awdur greodd y safle er mwyn bwydo ei hobi o astudio sut mae pobl yn siarad a sut mae geiriau yn amrywio o un cwr i'r wlad i'r llall. Mae Guto Rhys bellach yn byw yng ngwlad Belg ac mae ganddo gefndir Ewropeaidd eang i'w brif ddiddordeb - un o amcanion y safle a'r gyfrol hon yw trafod pob iaith dan haul drwy'r Gymraeg. Yng nghefn y gyfrol, mae rhestr o 850 o 'gyfranwyr'. Mae Cymru gyfan yma wrth gwrs, ond hefyd mae pytiau o wledydd tramor ac mae nifer o ddysgwyr yr iaith wedi anfon cyfraniadau dadlennol. Mae yma, felly, gymharu difyr a golwg newydd ar ambell hen ddywediad a geiriau tafodieithol.