Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370
Awdur: Tudur Morgan
ISBN: 9781845277871
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Chwefror 2021
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 120 tudalen
Iaith: Cymraeg
Atgofion drwy ganeuon Tudur Morgan: cyfansoddwr, canwr, cefnleisiwr, cyfeilydd, cyfarwyddwr – un o'r cerddorion prysuraf a mwyaf amryddawn yng Nghymru.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mewn gyrfa sydd wedi goroesi tri degawd, mae ôl bysedd y Monwysyn hwn ar ddisgiau ac albymau dirifedi ac ar lwyfaniadau cerddorol ledled Cymru a'r tu hwnt. Cydweithiodd gyda bron pawb sydd wedi cyfrannu i'r byd canu poblogaidd Cymraeg. Mae ei gyfraniad yn rhyngwladol ac mae ei stamp ar ganu ysgafn y genedl yn annileadwy.
Bu'n un o'r '4 yn y Bar', mae'n parhau i ganu efo 'Mojo' ac mae wedi cyhoeddi nifer o CDs unigol. Cydweithiodd efo'r Gwyddelod talentog Donal Lunny, Davy Spillane a Keith Donald a chyfeiliodd i'r chwedlonol Ronnie Drew. Rhannodd lwyfan efo'r 'Beach Boys' a 'Take That'.
Perfformiodd mewn gwahanol wyliau gwerin ledled Cymru a'r Alban. Gweithiodd ar niferoedd o CDs, i Sain yn bennaf, ac ymddangosodd yn rheolaidd ar lwyfan y 'Noson Lawen' ar S4C, ar Radio Cymru a Radio 2 a chyfansoddodd arwyddganeuon i gyfresi fel 'Y Bws Gwlad', 'Breuddwyd Pedair', 'Rhyddmau'r Celt' a 'Cadw'r Oed'.
Bydd CD o'r caneuon am ddim gyda phob llyfr