Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Mori

Ffion Dafis

Mori

Regular price £8.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Ffion Dafis

ISBN: 9781800991064
Dyddiad Cyhoeddi: 12 Tachwedd 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 200 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel gyfoes bwerus i oedolion - nofel gyntaf Ffion Dafis, awdures Syllu ar Walia ac actores adnabyddus.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Bywgraffiad Awdur:
O Fangor yn wreiddiol mae'r actores a'r awdures Ffion Dafis yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Dolgellau. Cyhoeddodd Syllu ar Walia, llyfr ffuglen/bywgraffiadol hynod lwyddiannus ym Medi 2017. Mae Ffion Dafis yn enwog fel actores ar deledu a llwyfan. Chwaraeodd y brif ran yn y gyfres wleidyddol Byw Celwydd ar S4C a rhan Lady Macbeth yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghastell Caerffili yn 2017.

Gwybodaeth Bellach:
Nofel seicolegol gydag elfen o ddirgelwch sy’n mynd â ni o fyd diogel dosbarth canol i fyd tywyll y we. Ar ôl diodde profiad ysgytwol, mae Dyddgu ganol oed yn colli ei swydd lewyrchus ac yn mynd yn gaeth i’r tŷ. Mae’n derbyn cais ffrind ar Facebook gan Morfudd ac yn cymryd yn ganiataol ei bod yn cysylltu â ffrind dosbarth canol arall. Ond mae Morfudd yn byw bywyd tywyll, fel mae Dyddgu yn ei ddarganfod wrth ei gwylio hi ar y we.

Gwobrau:
Cafodd Syllu ar Walia, llyfr bywgraffiadol Ffion Dafis ei enwebu ar gyfer rhestr fer Llyfr y Flwyddyn