Free shipping over £40 | Click/order & collect | 01239 621370

Mr Blaidd

Llwyd Owen

Mr Blaidd

Regular price £7.95
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Llwyd Owen

ISBN: 9781847711762 
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Hydref 2009
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 288 tudalen
Iaith: Cymraeg

Nofel dditectif gyffrous wedi'i lleoli yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, ger Caerdydd. Ar ôl cael ei hebrwng am noson o waith gan Mr Blaidd daw diwedd sydyn i fywyd putain ifanc yn y dref. Wrth i'w hefaill ddod draw i ymchwilio i'r dirgelwch daw i adnabod yr heddlu llwgr, darpar gariad a nifer o gymeriadau rhyfeddol a chwedlonol eraill sy'n ei harwain at y llofrudd.

Gwybodaeth Bellach:
Stori dditectif o ddyfnderoedd tywyll dychymyg Llwyd Owen, awdur Ffydd Gobaith Cariad (a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2007) a dwy nofel feiddgar ac unigryw arall, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau a'r Ergyd Olaf.

Yn y dyfodol agos mewn gwlad debyg iawn i'r Gymru gyfoes, mae'r Hugan Fach Goch wedi diflannu a'i hefaill yn penderfynu mynd i chwilio amdani ... yn y Coed. Mae'r Ddau Gi Bach yn archwilio'r achos ar ran adran dditectifs Gerddi Hwyan, ond mae'r partneriaid yn ceisio claddu cyfrinachau cythryblus personol sy'n gwneud dim i hwyluso'u gwaith. Ac yng nghanol yr holl helbul, mae Gee Geffyl Bach, Hen Fenyw Fach Cydweli, Y Badell Ffrio a Mr Blaidd.

Gwobrau:
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2007 gyda'r nofel Ffydd Gobaith Cariad