Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370

O'r Cyrion i'r Canol

Ieuan Wyn Jones

O'r Cyrion i'r Canol

Regular price £9.99
Unit price  per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Awdur: Ieuan Wyn Jones

ISBN: 9781800991040
Dyddiad Cyhoeddi: 13 Hydref 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 215x141 mm, 250 tudalen
Iaith: Cymraeg

Hunangofiant cyn arweinydd Plaid Cymru a'r cyn Ddirprwy Brif Weinidog. Datgelir straeon rhyfeddol ar gyfnod pwysig yn hanes Cymru - o ddyddiau sefydlu'r Cynulliad hyd at lwyddiant yr ail refferendwm ar bwerau deddfu yn 2011. Ceir hanes yr heriau a wynebai Plaid Cymru wrth symud o'r ymylon i brif ffrwd gwleidyddiaeth Cymru.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:

Gwybodaeth Bellach:
Cymhwysodd Ieuan Wyn Jones fel cyfreithiwr yn 1973 a bu’n gweithio fel partner mewn cwmni cyfreithiol gwledig rhwng 1974-1987. Etholwyd ef fel Aelod Seneddol Ynys Môn (1987-2001) ac fel Aelod Cynulliad (1999-2013).

Bu’n arweinydd Plaid Cymru rhwng 2000 a 2012 ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru o 2007 hyd 2011. Ef oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol cyntaf M-SParc sef Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru.