Free shipping over £45 | Order & collect | 01239 621370
Awdur: Richard Holt
ISBN: 9781845278892
Dyddiad Cyhoeddi: 15 Hydref 2022
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Fformat: Clawr Meddal, 211x210 mm, 144 tudalen
Iaith: Cymraeg
Cyfrol sy'n olrhain cefndir a gyrfa y cogydd enwog, Richard Holt, ynghyd â ryseitiau arbennig - yn cynnwys y Mônut enwog! Mae'r awdur yn wyneb cyfarwydd yn dilyn llwyddiant ei gyfresi 'Yr Academi Felys' ac 'Anrhegion Melys Richard Holt' ar S4C. Dyma hanes ei gefndir a'i yrfa - o straen gweithio yng ngheginau gwyllt Llundain i'r sialens o redeg melin wynt unigryw.
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Mae Richard Holt yn wyneb cyfarwydd yn dilyn llwyddiant ei gyfresi Yr Academi Felys ac Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C, ond doedd gan y bachgen o Fôn ddim bwriad o gwbl i fod yn gogydd nes iddo ddigwydd cyfarfod y chef enwog Marco Pierre White ar y stryd yng Nghaerdydd. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach roedd yn gweithio mewn cegin... a dyna ddechrau antur fwyaf ei fywyd.
Dyma hanes ei gefndir a'i yrfa – o straen gweithio yng ngheginau gwyllt Llundain i’r sialens o redeg melin wynt unigryw.
Mae’r gyfrol yn cynnwys 26 o’i ryseitiau arbennig, gan roi cyfle i'r darllenydd wneud rhai o hoff bwdinau Richard drwy ddilyn ryseitiau o safon proffesiynol sydd wedi’u haddasu ar gyfer y cartref.